P-06-1366 Adfer y cyllid ar gyfer gwasanaethau Bysiau Cwm Taf 351 (Dinbych-y-pysgod i Bentywyn) a 352 (Dinbych-y-pysgod i Gilgeti)

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Melanie Mallin, ar ôl casglu cyfanswm o 1,697 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae Bysiau Cwm Taf wedi rhedeg y gwasanaethau 351 a 352 ers mis Mehefin 2016. Maent wedi cael eu cefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru i helpu gyda diffygion ariannol. Yn anffodus, mae’r cyllid hwn nawr yn cael ei dynnu yn ôl, sy’n golygu bod y gwasanaethau yn anghynaliadwy yn ariannol. Ar ben hynny, gall bws dau lawr to agored, gan weithredwr bysiau cenedlaethol mawr, weithredu rhwng Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot ar sail fasnachol bob dydd rhwng y Pasg a diwedd yr haf, sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y busnes teuluol bach lleol.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Pontypridd

·         Canol De Cymru